Hwn yw’r hysbysiad preifatrwydd ar gyfer The Artangel Trust; swyddfa gofrestredig 31 Eyre Street Hill, London EC1R 5EW, United Kingdom; rhif cwmni cyfyngedig 1917570; rhif elusen gofrestredig 292976.
Mae Artangel wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a bod yn dryloyw ynghylch pa wybodaeth rydym yn ei dal amdanoch.
Mae defnyddio data personol yn caniatáu i ni roi gwybodaeth i bobl am y gwaith rydym yn ei wneud ac fel elusen i ymgysylltu â rhoddwyr a chefnogwyr posibl.
Diben y polisi hwn yw rhoi eglurhad clir o sut rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth.
Rydym yn defnyddio gwybodaeth yn unol â phob cyfraith berthnasol ynghylch diogelu gwybodaeth bersonol. Rydym yn adolygu ein polisi preifatrwydd yn rheolaidd a byddwn yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Cafodd y polisi ei ddiweddaru ddiwethaf ym mis Chwefror 2019.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein polisi preifatrwydd neu wybodaeth rydym yn ei dal amdanoch:
- Trwy e-bostio info@artangel.org.uk
- Trwy ysgrifennu i Artangel, 31 Eyre Street Hill, London EC1R 5EW, United Kingdom.
Data Personol
Data personol yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â rhywun sy’n byw y gellir ei adnabod o’r data hwnnw (neu o’r data hwnnw a data arall a ddelir).
Mae gennym ymrwymiad i ddiogelu preifatrwydd data personol a gyflwynir i The Artangel Trust a dilyn canllawiau’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018.
Bydd y data personol a ddaliwn yn:
- Cael ei brosesu’n gyfreithlon, yn deg ac yn dryloyw
- Cael ei gasglu at ddibenion cyfyngedig a phenodol
- Cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol at y dibenion hyn
- Cywir
- Cael ei gadw am gyfnod cyfyngedig
- Cael ei ddiweddaru a’i gadw’n ddiogel
Rydym yn cadw ac yn prosesu data personol trwy The Raiser’s Edge, Quickbooks, a Mailchimp y mae eu gweinyddion wedi’u lleoli yn UDA. Mae pob un o’r tri chwmni yn cynnig Cymalau Cytundebol Safonol fel dull o ddarparu trefniadau priodol i ddiogelu data personol at ddibenion diogelu data yn yr UE, y DU a’r Swistir.
Trydydd Partïon
Mewn rhai amgylchiadau mae’n bosibl y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon. Dyma’r amgylchiadau hynny:
- I’n darparwyr gwasanaethau ein hunain sy’n prosesu data ar ein rhan ac yn ôl ein cyfarwyddiadau (er enghraifft, ein darparwr meddalwedd y system tocynnau). Yn yr achosion hyn, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i’r trydydd partïon hyn gydymffurfio’n llwyr â’n cyfarwyddiadau a chyfreithiau diogelu data, er enghraifft mewn perthynas â diogelu data personol.
- Pan fyddwn dan ddyletswydd i ddatgelu eich gwybodaeth bersonol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol (er enghraifft, dibenion Rhodd Cymorth).
Diogelu Eich Gwybodaeth Bersonol
Mae gennym drefniadau diogelu priodol ar waith (o ran ein gweithdrefnau a’r dechnoleg a ddefnyddiwn) i gadw eich gwybodaeth bersonol mor ddiogel ag sy’n bosibl. Byddwn yn sicrhau bod unrhyw drydydd partïon a ddefnyddiwn i brosesu eich gwybodaeth yn gwneud yr un peth.
Eich Hawliau i’ch Gwybodaeth Bersonol
Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch ac i gywiro unrhyw ddata sy’n anghywir. Defnyddiwch y manylion cyswllt ar ddechrau’r polisi hwn os hoffech wneud hyn.
Eich Hawliau i’ch Gwybodaeth Bersonol
Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch ac i gywiro unrhyw ddata sy’n anghywir. Defnyddiwch y manylion cyswllt ar ddechrau’r polisi hwn os hoffech wneud hyn.
Rhestr o Wefannau
Mae Artangel yn gweinyddu nifer o wefannau gan gynnwys:
Os ydych yn ymweld ag unrhyw un o’r gwefannau hyn, gan gynnwys eu his-barthau, rydych yn derbyn ac yn cydsynio i’r arferion a ddisgrifir yn y polisi preifatrwydd hwn.
Mae dolenni i wefannau na chânt eu rheoli gan The Artangel Trust i’w gweld ar ein gwefannau. Ni ddylid cymryd y dolenni hyn fel ardystiadau o’r gwefannau trydydd parti hyn. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y safleoedd hyn, nid oes gennym reolaeth drostynt ac nid ydym yn cyfrannu at eu polisïau preifatrwydd.
Cwcis Gwefannau
Cwcis yw ffeiliau testun sy’n cael eu dodi ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth mewngofnodi rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad ymwelwyr.
Defnyddir yr wybodaeth hon i olrhain defnydd ymwelwyr o’r wefan er mwyn gwella ein safle a’n cynnwys, a hefyd fel y gallwn lunio adroddiadau ystadegol ar weithgarwch y wefan ar gyfer ein cyllidwyr, yn enwedig ein prif gyllidwr: Cyngor Celfyddydau Lloegr. Nid yw’r cwcis yn gallu eich adnabod yn bersonol, ond maen nhw’n defnyddio cyfeiriad IP eich cyfrifiadur i leoli’n ddaearyddol o ble rydych yn cyrchu’r safle hwn.
Y dull o gasglu a ddefnyddir ar hyn o bryd yw Google Analytics.
Yn ogystal, rydym yn defnyddio cwcis a ddarperir gan Facebook i bersonoli hysbysebion i chi ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r cwcis hyn yn defnyddio Gwybodaeth Bersonol Adnabyddadwy os yw ar gael ar eich proffil Facebook. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae cwcis Facebook Pixel yn gweithio i’w gweld ar wefan Facebook.
Rydym hefyd yn ymgorffori cynnwys o wefannau trydydd parti gan gynnwys YouTube, Vimeo, a Soundcloud. Pan fyddwch yn mynd i dudalen sydd â’r cynnwys hwn, mae’n bosibl y bydd y gwefannau trydydd parti hyn yn dodi cwcis ar eich cyfrifiadur ac nid yw Artangel yn rheoli sut maen nhw’n gwneud hyn. I wybod rhagor am bob un o’u polisïau preifatrwydd, ewch i’w gwefannau.
Gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis a gallwch ddileu cwcis o’ch porwr. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion, mae’n bosibl na fydd rhai nodweddion ein gwefan yn gweithio o ganlyniad.
Os hoffech analluogi cwcis, dyma ragor o wybodaeth ynghylch sut i wneud hynny ar gyfer y porwyr mwyaf poblogaidd:
Yn ogystal, mae Ategyn Porwr Optio Allan ar Google Analytics a all gael ei osod ar bob un o’r porwyr hyn i optio allan o gwcis Google Analytics ar draws pob gwefan.
Data tanysgrifwyr rhestr bostio
Y data a gasglwn gan ein tanysgrifwyr rhestr bostio yw:
- Enw llawn
- Cyfeiriad e-bost
- Cod post
- Gwlad preswylio
Rydym yn casglu’r wybodaeth hon fel y gallwn roi gwybod i chi am ein prosiectau a’n digwyddiadau.
Yn achos tanysgrifwyr sy’n cydsynio i dderbyn negeseuon codi arian, caiff yr wybodaeth ei defnyddio i roi gwybodaeth iddynt am wneud cyfraniad at Artangel.
Yn achos tanysgrifwyr sy’n cydsynio i dderbyn arolygon, caiff yr wybodaeth ei defnyddio i anfon arolygon atynt am brosiectau ac i roi eu henwau mewn raffl i ennill gwobr os ydyn nhw’n llenwi arolwg. Mae’r arolygon yn gofyn am fanylion ethnigrwydd ac anabledd ond nid yw hyn yn ofynnol. Y sail gyfreithlon dros brosesu’r data categori arbennig hwn yw Erthygl 9(2)(a) - cydsyniad. Caiff y data ei brosesu ar ffurf ddienw yn unig ac nid oes rhaid i danysgrifwyr ei ddarparu.
Defnyddir y data hefyd wrth ddadansoddi data cyfanredol megis olrhain effeithiolrwydd cyfathrebu trwy gyfraddau agor e-byst.
Y sail gyfreithlon dros brosesu’r data yw Erthygl 6 (1)(f) – buddiannau busnes dilys a/neu Erthygl 6(1)(a) – cydsyniad. Rydym yn casglu ac yn prosesu’ch data personol at ddibenion o fewn ein buddiannau sefydliadol dilys (i roi’r diweddaraf i chi am ein gwaith) dim ond os nad oes unrhyw anfantais amlwg i chi drwy ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol yn y ffordd hon. Os oes unrhyw sefyllfaoedd lle nad yw’n briodol byddwn yn gofyn i chi am eich cydsyniad penodol.
Mae’r data a’r cydsyniad yn cael eu cadw a’u cofnodi trwy MailChimp. Mae’r data’n cael ei gadw’n ddiogel ac mae rheolaethau ar waith i atal mynediad anawdurdodedig i’r data. Ni chaiff ei rannu.
Gall tanysgrifwyr gyflwyno Cais Gwrthrych am Wybodaeth i gyrchu eu gwybodaeth bersonol ac mae hawl ganddynt ei gywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn. Gallan nhw wneud cais i ddileu eu data personol ar unrhyw adeg neu i atal prosesu pellach. Gallan nhw wrthwynebu defnyddio eu data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol ac mae pob cyfathrebiad yn cynnwys dolen i ddatdanysgrifio ar-lein. Yna bydd data personol sylfaenol yn cael ei gadw mewn “rhestr atal” ac ni chaiff ei brosesu mwyach ond bydd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod dewisiadau tanysgrifwyr yn cael eu dilyn.
Unwaith y flwyddyn, bydd tanysgrifwyr rhestr bostio sydd heb agor y 50 ymgyrch diwethaf yn cael eu datdanysgrifio. Byddwn yn gofyn i’r rhai sydd heb agor yr 20 diwethaf yn olynol optio i mewn i barhau i dderbyn gohebiaeth. Os na wnânt hynny, cânt hwythau eu datdanysgrifio hefyd.
Data Ymatebwyr Arolygon
Rydym yn defnyddio Counting What Counts (CWC) fel ein Prosesydd i reoli ein harolygon a’n cyfathrebiadau â chi.
Rydym wedi llofnodi cytundeb wedi’i rwymo mewn cyfraith â CWC a Chyngor Celfyddydau Lloegr sy’n cadarnhau y bydd yn casglu ac yn cadw gwybodaeth amdanoch dim ond yn unol â’n cyfarwyddiadau, yn seiliedig ar sut rydym yn defnyddio ei blatfform hunanwasanaeth. Mae CWC wedi cymryd camau i leihau faint o ddata personol y gall ei weld neu ei gyrchu wrth brosesu ar ein rhan ac i wneud yn siŵr ei fod wedi’i ddiogelu’n briodol. Gweler Polisi Preifatrwydd CWC.
Data Tanysgrifwyr Rhestr Digwyddiadau Agored
Y data a gasglwn gan ein tanysgrifwyr rhestr Digwyddiadau Agored yw:
- Enw llawn
- Cyfeiriad e-bost
- Cyfeiriad post
Rydym yn casglu’r wybodaeth hon i roi gwybod i chi am ein prosiectau ac i’ch gwahodd i ddigwyddiadau. Yn achos tanysgrifwyr sy’n cydsynio i dderbyn negeseuon codi arian, defnyddir yr wybodaeth hon i anfon cyfathrebiadau am wneud cyfraniad at Artangel.
Y sail gyfreithlon dros brosesu’r data hwn yw Erthygl 6 (1)(f) – buddiannau busnes dilys a/neu Erthygl 6(1)(a) – cydsyniad. Rydym yn casglu ac yn prosesu’ch data personol at ddibenion o fewn ein buddiannau sefydliadol dilys (i roi’r diweddaraf i chi am ein gwaith) dim ond os nad oes unrhyw anfantais amlwg i chi drwy ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol yn y ffordd hon. Os oes unrhyw sefyllfaoedd lle nad yw’n briodol byddwn yn gofyn i chi am eich cydsyniad penodol.
Mae’r data a’r cydsyniad yn cael eu cadw a’u cofnodi trwy The Raisers’ Edge gan Blackbaud.
Mae’r data’n cael ei gadw’n ddiogel ac mae rheolaethau ar waith i atal mynediad anawdurdodedig i’r data. Mae’n bosibl y bydd eitemau data 1 a 3 yn cael eu rhannu â phrosesydd postio er mwyn anfon gwahoddiadau at danysgrifwyr gyda’r post.
Gall tanysgrifwyr gyflwyno Cais Gwrthrych am Wybodaeth i gyrchu eu gwybodaeth bersonol ac mae hawl ganddynt ei gywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn. Gallan nhw wneud cais i ddileu eu data personol ar unrhyw adeg neu i atal prosesu pellach. Gallan nhw wrthwynebu defnyddio eu data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol ac mae pob cyfathrebiad yn cynnwys dolen i ddatdanysgrifio ar-lein. Yna bydd data personol sylfaenol yn cael ei gadw mewn “rhestr atal” ac ni chaiff ei brosesu mwyach ond bydd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod dewisiadau tanysgrifwyr yn cael eu dilyn.
Data Rhoddwyr Presennol
Y data a gasglwn gan ein rhoddwyr yw:
- Enw llawn
- Cyfeiriad e-bost
- Cyfeiriad post
- Manylion y rhodd
- Manylion banc
Rydym yn casglu’r wybodaeth hon fel y gallwn gyflawni’r contract ar gyfer aelodaeth neu fuddion eraill i roddwyr sydd gennym gyda chi, at ddibenion ein gweithgareddau cadw cofnodion ariannol ein hunain ac i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol wrth hawlio Rhodd Cymorth.
Y sail gyfreithlon dros brosesu’r data hwn yw Erthygl 6(1)(b) – contract ac Erthygl 6(1)(c) – rhwymedigaeth gyfreithiol. Mae’r data’n cael ei gadw trwy The Raisers’ Edge a QuickBooks.
Mae’r data’n cael ei gadw’n ddiogel ac mae rheolaethau ar waith i atal mynediad anawdurdodedig i’r data.
Rhennir eitemau data 1, 3, a 4 â Chyllid a Thollau EF (CThEF) at ddibenion Rhodd Cymorth os yw’r rhoddwr yn gofrestredig ar gyfer Rhodd Cymorth. Rhennir eitem data 4 â banc y rhoddwr os yw’r rhoddwr yn gofyn i ni sefydlu archeb sefydlog ar gyfer y rhodd. Gellir rhannu eitemau data 1 a 3 â phrosesydd postio er mwyn anfon gwahoddiadau i danysgrifwyr gyda’r post. Ni chaiff y data ei rannu fel arall.
Gall rhoddwyr gyflwyno Cais Gwrthrych am Wybodaeth i gyrchu eu data personol ac mae hawl ganddynt ei gywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn.
Data Rhoddwyr Posibl
Y data a gasglwn gan ein rhoddwyr posibl yw:
- Enw llawn
- Cyfeiriad e-bost
- Cyfeiriad post
Rydym yn casglu’r wybodaeth hon fel y gallwn eich gwahodd i’n prosiectau a’n digwyddiadau ac anfon negeseuon codi arian atoch.
Y sail gyfreithlon dros brosesu’r data hwn yw Erthygl 6(1)(a) – cydsyniad. Mae’r data a’r cydsyniad yn cael eu cadw a’u cofnodi trwy The Raisers’ Edge.
Mae’r data’n cael ei gadw’n ddiogel ac mae rheolaethau ar waith i atal mynediad anawdurdodedig i’r data. Gellir rhannu eitemau data 1 a 3 â phrosesydd postio er mwyn anfon gwahoddiadau i danysgrifwyr gyda’r post. Ni chaiff y data ei rannu fel arall.
Gall rhoddwyr posibl gyflwyno Cais Gwrthrych am Wybodaeth i gyrchu eu gwybodaeth bersonol ac mae hawl ganddynt ei gywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn. Gallan nhw wneud cais i ddileu eu data personol ar unrhyw adeg neu i atal prosesu pellach. Gallan nhw wrthwynebu eu data personol yn cael ei defnyddio at ddibenion marchnata uniongyrchol ac mae pob cyfathrebiad yn cynnwys dolen i ddatdanysgrifio ar-lein. Yna bydd data personol sylfaenol yn cael ei gadw mewn “rhestr atal” ac ni chaiff ei brosesu mwyach ond caiff ei ddefnyddio i sicrhau bod dewisiadau rhoddwyr posibl yn cael eu dilyn.
Data Gweithwyr
Y data a gasglwn gan weithwyr yw:
- Manylion cyswllt a phersonol
- Manylion pensiwn
- Manylion treth
- Manylion ethnigrwydd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran ac anabledd
- Manylion banc
- Manylion gwyliau blynyddol
- Manylion absenoldeb salwch
- Manylion perfformiad
- Cymwysterau a hanes cyflogaeth
Rydym yn casglu’r wybodaeth hon er mwyn cyflawni’r contract cyflogaeth sydd gennym gyda chi, i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol fel cyflogwr ac i ddarparu data monitro cyfanredol i’n prif gyllidwr, Cyngor Celfyddydau Lloegr.
Y sail gyfreithlon dros brosesu eitemau data 1 – 3 yw Erthygl 6(1)(c) – rhwymedigaeth gyfreithiol. Caiff y data ei rannu â CthEF a chaiff eitem 2 ei rannu hefyd ag ymgynghorydd pensiynau Artangel Fraser Heath a darparwyr pensiynau Royal London.
Y sail gyfreithlon dros brosesu eitem data 4 yw Erthygl 6(1)(a) – cydsyniad. Y sail gyfreithlon dros brosesu’r data categori arbennig yw Erthygl 9(2)(a) – cydsyniad. Caiff y data ei brosesu ar ffurf ddienw yn unig ac nid oes rhaid i danysgrifwyr ei ddarparu.
Y sail gyfreithlon dros brosesu eitemau data 5 – 9 yw Erthygl 6(1)(b) – contract. Y sail gyfreithlon dros brosesu data categori arbennig eitem 7 yw Erthygl 9(2)(b) – cyflogaeth. Ni chaiff y data ei rannu ac eithrio â chyflogwr yn y dyfodol trwy gydsyniad.
Caiff y data ei gadw trwy QuickBooks a ffeil personél pob gweithiwr. Mae’r data’n cael ei gadw’n ddiogel ac mae rheolaethau ar waith i atal mynediad anawdurdodedig i’r data. Caiff ei ddileu’n ddiogel saith mlynedd ar ôl i’r gyflogaeth ddod i ben.
Gall gweithwyr gyflwyno Cais Gwrthrych am Wybodaeth i gyrchu eu gwybodaeth bersonol ac mae hawl ganddynt ei gywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn. pellach. Os mai’r sail gyfreithiol dros brosesu yw cydsyniad, mae gan weithwyr yr hawl i dynnu hwn yn ôl ar unrhyw adeg.
Data Ymgeiswyr Swyddi
Y data a gasglwn gan ymgeiswyr swyddi yw:
- Manylion cyswllt a phersonol
- Cymwysterau a hanes cyflogaeth
- Manylion ethnigrwydd, rhywedd ac anabledd
Rydym yn casglu’r wybodaeth hon er mwyn asesu pa mor addas ydych ar gyfer cyflogaeth ac i ddarparu data monitro cyfanredol i’n prif gyllidwr, Cyngor Celfyddydau Lloegr.
Y sail gyfreithlon dros brosesu eitemau 1 a 2 yw Erthygl 6(1)(b) – contract. Y sail gyfreithlon dros brosesu eitem 3 yw Erthygl 6(1)(a) – cydsyniad. Y sail gyfreithlon dros brosesu’r data categori arbennig hwn yw Erthygl 9(2)(a) – cydsyniad. Caiff y data ei brosesu ar ffurf ddienw yn unig ac nid oes rhaid i ymgeiswyr swyddi ei ddarparu.
Cesglir y data ar hyn o bryd trwy Wufoo by SurveyMonkey. Mae’r data’n cael ei gadw’n ddiogel ac mae rheolaethau ar waith i atal mynediad anawdurdodedig i’r data. Bydd yn cael ei ddileu’n ddiogel un mis ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Ni chaiff ei rannu.
Data Contractwyr
Y data a gasglwn gan gontractwyr yw:
- Manylion cyswllt a phersonol
- Cymwysterau a hanes cyflogaeth
- Manylion banc
- Manylion ethnigrwydd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran ac anabledd
Rydym yn casglu’r wybodaeth hon er mwyn cyflawni’r contract sydd gennym gyda chi ac i ddarparu data monitro cyfanredol i’n prif gyllidwr, Cyngor Celfyddydau Lloegr.
Y sail gyfreithlon dros brosesu eitemau 1 – 3 yw Erthygl 6(1)(b) – contract. Y sail gyfreithlon dros brosesu eitem 4 yw Erthygl 6(1)(a) – cydsyniad. Y sail gyfreithlon dros brosesu’r data categori arbennig hwn yw Erthygl 9(2)(a) – cydsyniad. Caiff y data ei brosesu ar ffurf ddienw yn unig ac nid oes rhaid i gontractwyr ei ddarparu.
Mae’r data’n cael ei gadw’n ddiogel ac mae rheolaethau ar waith i atal mynediad anawdurdodedig i’r data. Bydd yn cael ei ddileu’n ddiogel blwyddyn ar ôl i’r contract ddod i ben. Ni chaiff ei rannu.
Gall contractwyr gyflwyno Cais Gwrthrych am Wybodaeth i gyrchu eu gwybodaeth bersonol ac mae hawl ganddynt ei gywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn.
Data Contractwyr Posibl
Y data a gasglwn gan gontractwyr posibl yw:
- Manylion cyswllt a phersonol
- Cymwysterau a hanes cyflogaeth
- Rydym yn casglu’r wybodaeth hon er mwyn asesu’r gwasanaethau rydych yn eu cynnig.
Y sail gyfreithlon dros brosesu’r data hwn yw Erthygl 6(1)(b) – contract.
Mae’r data’n cael ei gadw’n ddiogel ac mae rheolaethau ar waith i atal mynediad anawdurdodedig i’r data. Bydd yn cael ei ddileu’n ddiogel un flwyddyn ar ôl y dyddiad derbyn. Ni chaiff ei rannu.
Data Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr
Y data a gasglwn gan gyfarwyddwyr/ymddiriedolwyr yw:
- Manylion cyswllt a phersonol
- Manylion ethnigrwydd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran ac anabledd
- Datganiad o fuddiannau
Rydym yn casglu’r wybodaeth hon er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel cwmni cyfyngedig ac elusen gofrestredig ac i ddarparu data monitro cyfanredol i’n prif gyllidwr, Cyngor Celfyddydau Lloegr.
Y sail gyfreithlon dros brosesu eitemau data 1 a 3 yw Erthygl 6(1)(c) – rhwymedigaeth gyfreithiol a chaiff eitem data 1 ei rhannu â Thŷ’r Cwmnïau a’r Comisiwn Elusennau. Ni chaiff eitemau data 2 a 3 eu rhannu.
Y sail gyfreithlon dros brosesu’r data item 2 is Erthygl 6(1)(a) – cydsyniad. Y sail gyfreithlon dros brosesu’r data categori arbennig hwn yw Erthygl 9(2)(a) – cydsyniad. Caiff y data ei brosesu ar ffurf ddienw yn unig ac nid oes rhaid i gyfarwyddwyr/ymddiriedolwyr ei ddarparu.
Mae’r data’n cael ei gadw’n ddiogel ac mae rheolaethau ar waith i atal mynediad anawdurdodedig i’r data. Bydd yn cael ei ddileu’n ddiogel un flwyddyn ar ôl ymddiswyddiad y cyfarwyddwr/ymddiriedolwr.
Gall cyfarwyddwyr/ymddiriedolwyr gyflwyno Cais Gwrthrych am Wybodaeth i gyrchu eu gwybodaeth bersonol ac mae hawl ganddynt ei gywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn. Os mai cydsyniad yw’r sail gyfreithiol dros brosesu, mae gan gyfarwyddwyr/ymddiriedolwyr yr hawl i dynnu hwn yn ôl ar unrhyw adeg.
Data Cyfranogwyr Prosiect
Y data a gasglwn gan gyfranogwyr prosiect yw:
- Manylion cyswllt a phersonol (gan gynnwys manylion pasbort os yw’n ofynnol ar gyfer y prosiect)
- Manylion ethnigrwydd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran ac anabledd
Rydym yn casglu’r wybodaeth hon fel y gallwn gynhyrchu prosiectau celfyddydol ac i ddarparu data monitro cyfanredol i’n prif gyllidwr, Cyngor Celfyddydau Lloegr.
Y sail gyfreithlon dros brosesu eitem 1 yw Erthygl 6(1)(b) – contract. Caiff y data hwn ei rannu â chyflenwyr megis cwmnïau hedfan os yw’n ofynnol ar gyfer y prosiect.
Y sail gyfreithlon dros brosesu eitem 2 yw Erthygl 6(1)(a) – cydsyniad. Y sail gyfreithlon dros brosesu’r data categori arbennig hwn yw Erthygl 9(2)(a) – cydsyniad. Caiff y data ei brosesu ar ffurf ddienw yn unig ac nid oes rhaid i gyfranogwyr ei ddarparu. Ni chaiff y data hwn ei rannu.
Mae’r data’n cael ei gadw’n ddiogel ac mae rheolaethau ar waith i atal mynediad anawdurdodedig i’r data. Bydd yn cael ei ddileu’n ddiogel dri mis ar ôl cwblhau’r prosiect.